Beicio i'r Gweithle

At Revolution Bikes we are official Cycle to Work partners with the following organisations:




BEICIO I'R GWEITHLE
Fel rhan naturiol o ddatblygiad Revolution Bikes rydym wedi sefydlu cysylltiadau gyda nifer cynyddol o gwmniau lleol a chenedlaethol er mwyn cyflenwi beics ag offer i'w gweithwyr.


Trwy gyfrwng cynllun Beicio i'r Gweithle y Llywodraeth cewch gyfle i brynu beic mewn cyd-weithrediad gyda'ch cyflogwr. Telir am y beic dros gyfnod o flwyddyn yn arferol, yn uniongyrchol o'ch cyflog, gan sicrhau gostyngiad o hyd at 50%.


SUT MAE'R CYNLLUN YN GWEITHIO?
Creuwyd y cynllun gan y Llywodraeth i geisio annog gweithwyr i ddefnyddio dulliau o deithio i'r gweithle sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd.


Unwaith mae eich cyflogwr wedi cytuno i fod yn rhan o'r fenter, mae'r broses o sicrhau eich beic a'ch offer diogelwch yn syml iawn. Mae'r rhan fwyaf o gwsmeriaid yn dewis mynychu'r siop er mwyn trafod eu gofynion unigryw efo aelod arbenigol o staff, trwy ymgynghori fel hyn gallwn sicrhau bod anghenion pob cwsmer yn cael eu diwallu. Wedi i chi ddewis eich nwyddau gallwn fwrw 'mlaen ar unwaith i lenwi'r ffurflenni pwrpasol yn barod i chi eu cyflwyno.


Gall eich cyflogwr gyd-weithio yn uniongyrchol gyda ni neu ddefnyddio un o'r cwmniau arbenigol sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran siopau beics annibynol, beth bynnag fo'u dewis yr un yw'r broses o archebu a chyflenwi eich beic. Mae pob beic a werthir trwy'r cynllun hwn dan warant arferol y gwneuthurwr a cynigiwn hefyd ei wasanaethu'r tro cyntaf am ddim yn siop feics Revolution.


Os ydych yn gyflogwr sy'n ystyried cynnig y gwasanaeth hwn i'ch gweithwyr ac yn awyddus i wybod mwy am y cynllun byddwn yn falch iawn i'ch cynghori, anfonwch e-bost atom neu galwch draw i'n gweld yn y siop.